Wel am lwyddiant!!
Mae Gwobrau BKU yn wobrau cenedlaethol ar gyfer y diwydiant Cegin ac ystafelloedd ymolchi.
Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod Tumewn wedi ei enwebu, ac wedi ennill gwobr 'Gwobrau BKU –
‘Manwerthwr Ystafell Ymolchi Gorau ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid 2023'.
Roedd cannoedd o gwmnïau a manwerthwyr proffesiynol wedi cystadlu yn y gwobrau gyda 28 categori gwahanol, a Tumewn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 3 chategori gwahanol.
Cyflwynwyd y seremoni gan y digrifwr Seann Walsh yng ngwesty 'Royal Lancaster' yn Llundain. Roedden ni’n cystadlu yn erbyn cwmnïau mawr, ledled y byd, a doedden ni ddim yn gallu credu’r peth pan ddaeth enw Tumewn i fyny ar y sgrin fawr, a chwmni bach o Benllyn wedi ennill y wobr.
Mae'n bleser, ac yn deimlad balch iawn. Mae ein diolch yn fawr iawn i staff rhagorol Tumewn. Mae pawb yn rhoi o'u gorau i'w gwaith. Rydym yn hynod o ffodus i fod gyda thîm mor ymroddedig o staff.
Diolch enfawr i’n cwsmeriaid ffyddlon, sy’n ein cefnogi fel busnes lleol.
A diolch hefyd i deulu a ffrindiau sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith!
Gobeithio y bydd Tumewn yn parhau i lwyddo, ac yn creu ceginau ac ystafelloedd ymolchi o safon uchel am flynyddoedd i ddod.
Mi gafodd Tu Mewn Cyf ei gyhoeddi fel yr enillwyr o nid yn unig 1 ond 2 wobr eleni! Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Tu Mewn ennill gwobr yn y BKU!
Enillwyd:
Ystafell Arddangos Cegin Orau'r Flwyddyn
Gwasanaeth Cwsmer Gorau
Mae'r seremoni fel arfer yn cael ei gynnal mewn lleoliad mawreddog yng nghanol Llundain ac yn cydnabod cyflawniad rhagorol ar draws nifer o gategorïau yn y diwydiant Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi. Ond oherwydd pandemig COVID-19 cynhaliwyd y seremoni tro yma ar y we i gadw'r holl fynychwyr yn ddiogel ac yn iach.
Ar ddydd Iau, 16eg Gorffennaf 2020 llwyddodd y digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gan lais y Loteri Genedlaethol, Alan Dedicoat.
Rydym yn falch o allu cadarnhau bod Tu Mewn yn cael ei gyhoeddi fel enillwyr yn y Gwasanaeth Cwsmer Gorau 2020 ac Ystafell Arddangos Cegin y Flwyddyn 2020. Hon oedd y drydedd flwyddyn yn olynol i Tu Mewn i ennill gwobrau yn y BKU, ar ôl codi Ystafell Arddangos Ystafelloedd Ymolchi'r flwyddyn 2019 ac Ystafell Arddangos Cegin y flwyddyn 2018; mae llwyddiant Tu Mewn yn y gwobrau BKU yn parhau.
Mae Tu Mewn yn dathlu ei benblwydd yn 15 oed eleni ac yn ymfalchïo'n fawr mewn darparu'r gwasanaeth cwsmer gorau ac mae'n arddangos y ceginau a'r ystafelloedd ymolchi harddaf, y gellir eu gweld i gyd yn ystafell arddangos yn Nefyn.
Mi gafodd Tu Mewn ei gyhoeddi fel yr enillwyr o’r ‘Ystafell Arddangos Ystafelloedd Molchi’ yng Ngwobrau’r BKU a gynhaliwyd yn y Pafiliwn, Twr Llundain ar yr 20ain o Fehefin 2019.
Mae llwyddiant Tu Mewn Cyf yn parhau eleni eto yn dilyn derbyn ‘Ystafell Arddangos Ceginau’ yn 2018. Cyflwynwyd y seremoni gan yr comediwr o Ganada Sean Collins gyda channoedd o gwmniau a gwerthwyr proffesiynol o bob rhan o’r wlad yn dathlu yr arddangosfeydd a’r brandiau gorau. Mae’r Gwobrau yn cynnig llwyfan arbennig i’r gorau yn y maes Ceginau ac Ystafelloedd Molchi gael eu gweld ai gwerthfawrogi. Rydym yn falch iawn ac mae’n meddwl y byd inni ennill nid un ond dwy wobr.
Rydym yn hynod o falch cael cyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr ‘Ystafell Arddangos Ceginau’ yng Ngwobrau’r BKU a gynhaliwyd yn Gwesty Tower Bridge, Llundain ar yr 21ain o Fehefin 2018. Roedd 513 o gwmniau’n ceisio am y wobr ac felly ni feddylien byth y buasen ni’n cael y fraint o ennill y fath wobr ac anrhydedd.
Fe wnaethom gyflwyno ein cais yn gynnar fis Ionawr, fel rhywfaint o hwyl. Agorwyd y pleidleisio fis Mawrth a chyflwynwyd dros 20,000 o bleidleisiau. Pan gyhoeddwyd ein bod wedi cyrraedd y 6 uchaf yn y wlad, nid oedd geiriau i ddisgrifio ein balchder. Roedd hyn yn gyflawniad enfawr ynddo ei hun. Braint oedd cael bod ar y rhestr fer ymhlith cymaint o bobl a chwmniau busnes poblogaidd, proffesiynol a llwyddianus iawn. Cyflwynwyd y wobr gan yr actor Hugh Dennis ag roeddwn wedi gwirioni gyda’r canlyniad.
© 2023 Tu Mewn. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd.